Skip to main content

Mae'n bryd i fynd ar antur deuluol yn Rhondda Cynon Taf

Mae RhCT yn gyrchfan i'r teulu cyfan. Mae yma brofiadau ac anturiaethau anhygoel iddyn nhw eu mwynhau ac mae gyda ni amrywiaeth o ddewisiadau o ran llety y byddan nhw wrth eu boddau â nhw! Dyma rai o'n hoff opsiynau sy'n addas ar gyfer teuluoedd.

Parc Gwledig Cwm Dâr

Mae Parc Gwledig Cwm Dâr yn gartref i Disgyrchiant, Parc Beiciau ar gyfer Teuluoedd cyntaf y DU. Defnyddiwch y gwasanaeth codi i'ch tywys i ben y mynydd i reidio lawr y llwybrau. Galwch heibio'r traciau pwmp. Mae hyd yn oed cwrs beic balans lliwgar i'r rhai bach. Cewch ddod â'ch beic eich hun neu logi un o'n beiciau ni.

 Parc Gwledig Cwm Dâr

Mae Parc Gwledig Cwm Dâr yn enfawr, gyda maes chwarae antur, teithiau cerdded, anturiaethau ar lan y llyn, a digonedd o le ar gyfer reidiau sgwter, picnics, pêl-droed a rhagor.

Mae Caffi Cwtsh yn gwerthu popeth o de a chacen i ginio rhost.

Mae yna safle newydd i garafanau/cerbydau gwersylla/cartrefi modur gyda chyfleusterau modern a chysylltiadau trydanol.

Mae Cwm Dâr yn safle Awyr Dywyll felly mae ganddo awyr glir fel crisial gyda'r nos i chi gael cysgu oddi tano.

Sunshine and clouds over one of the lakes at Dare Valley Country Park

Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty,

Gyda thri phwll awyr agored wedi'u gwresogi, cwrs rhwystrau teganau gwynt, a phwll sblasio â ffynnon i'r rhai bach, mae Lido Ponty yn siŵr o blesio'r teulu i gyd.

Dewch i orffwys ar lolfa haul neu fynd i nôl coffi o Waffle House ac ymlacio ar y teras.

Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty,

Cymerwch amser ar ôl nofio i grwydro o gwmpas Parc Coffa Ynysangharad a thref hyfryd Pontypridd.

Peidiwch ag anghofio ymweld â maes chwarae antur enfawr Lido Play - bydd y plant wrth eu boddau! Mae Parc Coffa Ynysangharad, sy'n gartref i Lido Ponty, yn hynod o brydferth.

Yn y parc mae bandstand, gardd isel, a cherflun yn dathlu Evan a James James, a gyfansoddodd 'Hen Wlad Fy Nhadau' wrth gerdded yn y parc.

lido banner image2

Zip World Tower

Gwibiwch o ben Mynydd y Rhigos ar 'Phoenix', y llinell sip gyda sedd gyflymaf yn y byd.

Bydd plant iau yn dwlu ar y Tower Flyer.

Reidiwch 'Tower Coaster', yr unig un o'i math yn Ewrop, a chadwch lygad mas am 'Tower Climber', cwrs rhwystr uchel sy'n agor yn fuan.

Mae Zip World Tower wedi'i adeiladu ar safle hen Lofa'r Tŵr, ac mae modd i chi edmygu'r olygfa wrth i chi fwyta yn y bwyty ar y safle, Cegin Glo.

zip world tower flyer

Taith Pyllau Glo Cymru

Mae teuluoedd yn dwlu ar gwrdd â’n tywyswyr teithiau – buodd pob un ohonyn nhw'n gweithio fel glowyr pan oedden nhw'n fechgyn.

Wnaeth glo o’n cymoedd ni helpu i bweru’r byd a sbarduno’r Chwyldro Diwydiannol. Hanes epig rydyn ni'n falch o'i hadrodd yw hi. Mwyngloddio sydd wedi llywio ein tirwedd a’n cymunedau, a thanio ein cariad at deulu, cerddoriaeth a chanu.

Cewch chi helmed glöwr i'w gwisgo cyn mentro ar daith o dan y ddaear ac yn ôl mewn amser. Reidiwch DRAM! ac archwiliwch weithfeydd mwyngloddio gwreiddiol ac arteffactau eraill yn y cwrt.

AWCME banner7

Profiad y Bathdy Brenhinol

"Allwedd arian a egyr pob clo" – ac mae hanes i'w ddatgloi'n sicr wrth ymweld â Phrofiad y Bathdy Brenhinol.

Ewch y tu ôl i lenni'r sefydliad 1,000 oed yma a symudodd i Gymru o Dŵr Llundain.

Darganfyddwch sut mae darnau arian yn cael eu creu, bathwch eich darn arian eich hun ac edmygwch y delwau wedi'u creu o ddarnau arian 1c. Mae'r siop anrhegion yn le perffaith i gasglwyr darnau arian.

Llantrisant Hanesyddol

 

Camwch yn ôl i ddyddiau pobl ecsentrig oes Fictoria, brenhinoedd wedi'u dal a rhyfelwyr di-ofn yn y dref hanesyddol ar ben bryn, Llantrisant.

Am le mor fach, mae llwyth o bethau i'w gwneud.

Ymwelwch ag adfeilion y castell ac ewch i drio'r cyffion gwddf!

Mae neuadd y dref yn dod â hanes yn fyw a bydd plant yn dwlu ar y profiadau rhyngweithiol.

Cerddwch ar y comin, ewch i gwrdd â'r merlod ac ewch ar un o'r Teithiau Cerdded Cwningen i ben bryn dirgel Billy Wynt.

guildhall llantrisant kid friendly

Parc Gwledig Barry Sidings

 

Ewch ati i redeg, neidio ac ymestyn cymaint ag yr hoffech chi yn y gornel brydferth yma o Rondda Cynon Taf.

Mae llyn, maes chwarae antur, trac pwmp i feiciau a chaffi anhygoel sy'n gwerthu byrgers, ysgytlaeth a mwy.

Ewch am dro hamddenol drwy'r parc neu i gerdded yn uchel yn y mynyddoedd cyfagos – eich dewis chi yw hi!

Paradwys i rai sy'n hoff o natur

Lle i ddianc rhag y cyfan a mwynhau awyr iach, heddwch a thawelwch, yw Parc Gwledig Cwm Clydach.

Yma fe welwch chi ddau lyn – un sy’n brysurach ac yn llawn hwyaid a gwyddau i’w bwydo a chaffi ar lan y llyn. Cerddwch ychydig ymhellach at y llyn uwch tawel lle bydd cyfle i weld y crëyr sy'n byw yno.

clydachvalebanner

Cwrso Rhaeadrau

Darganfyddwch raeadrau "cudd" a phyllau trochi sy'n glir fel crisial. Mae taith gerdded Pen-pych yn eich tywys chi drwy hen goedwig, heibio rhaeadr a phwll, i fyny at un o olygfeydd gorau'r ardal.

Scwd-yr-Eira - Waterfall

Llanwonno

Mae Coedwig Llanwynno yn daith gerdded addas i deuluoedd lle mae modd i chi ddod o hyd i gronfa ddŵr gudd a rhaeadr hardd Pistyll Goleu. Galwch heibio Eglwys Sant Gwynno i weld man gorffwys olaf Guto Nyth Brân, dyn cyflymaf y byd ar un adeg. Mae'r Rasys Ffordd Nos Galan yn cael eu cynnal bob blwyddyn er cof amdano

clydach reservoir martinagg

Bwyta

Mae digonedd ar y fwydlen yn Rhondda Cynon Taf. O enwau'r stryd fawr a bwyd tafarn cyfarwydd i rywbeth arbennig.

Mynnwch fwyd parod o Penaluna's Famous Fish & Chips yn Hirwaun, sydd wedi ennill gwobrau, ac ewch i fwyta 'al-fresco' ar ben Mynydd y Rhigos. Ceisiwch ddewis o blith dros 60 o flasau hufen iâ yn Sub Zero ym Mhenrhiw-fer neu mwynhewch tapas, pizza neu rywbeth arall yng Ngwesty Bistro’r Cardiff Arms yn ein tref arobryn, Treorci.

barry sidings ice cream picnic summer kid friendly

Cwrdd â'r alpacas yn Fferm Garth Hall

Bydd y plant bach wrth eu boddau'n cwrdd â'r alpacas - ac efallai'n mynd â nhw am dro - yn Fferm Garth Hall. Ymwelwch â fferm go iawn er mwyn gweld sut mae'n cael ei chynnal o ddydd i ddydd. Ewch i gwrdd â’r alpacas cyn mynd â nhw am dro drwy'r dirwedd wledig hardd

Take a walk with the Alpacas at Garth Hall Farm

Sinema

Prynwch bopgorn ac ymlaciwch yn eich sedd i wylio ffilm boblogaidd gyda’r teulu yn Showcase Cinema yn Nantgarw. Mae Theatr y Parc a'r Dâr a Theatr y Colisëwm yn cynnal sesiynau ffilmiau hefyd.

Untitled design - 2023-07-21T111832.143

Parc Aberdâr

Ewch ar gwch (cewch chi ddewis alarch neu ddraig!) ar y llyn cychod Fictoraidd a chasglwch ychydig o fwyd o'r caffi ar gyfer y gwyddau a hwyaid sy'n byw yno. Sblasiwch ddŵr ym Mhad Sblasio AquaDare ac ewch yn wyllt yn y maes chwarae enfawr. Dewch o hyd i’r ffynnon ddŵr, sy’n un o ddwy yn unig yn y byd - mae un arall y tu allan i westy moethus Raffles yn Singapore!

aberdare park kid friendly aquadare splash park